Athro mewn Perfformiad Pê-droed (2526560)
Cardiff Metropolitan University
Job Description
Llunio Dyfodol Perfformiad Pêl-droed Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn chwilio am arweinydd academaidd eithriadol i ymuno ag Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd fel Athro Perfformiad Pêl-droed.
Mae hwn yn gyfle prin i arwain datblygiad strategol hyfforddi a pherffromiad pêl-droed, seicoleg chwaraeon gymhwysol, a gwyddor perfformiad o fewn un o ysgolion chwaraeon blaenllaw'r DU. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu rhaglenni arloesol, hyrwyddo ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac adeiladu partneriaethau trawsnewidiol ar draws y diwydiant pêl-droed byd-eang.
Wrth i Brifysgol Met Caerdydd gyflawni ei Chynllun Strategol uchelgeisiol ar gyfer 2030, bydd y penodiad hwn yn helpu i sefydlu ecosystem ymchwil ac arloesi pêl-droed o'r radd flaenaf, gan gefnogi datblygiad Canolfan neu Hyb Ymchwil Pêl-droed bwrpasol a chryfhau ein proffil rhyngwladol.
Y Cyfle Bydd yr Athro Perfformiad Pêl-droed yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws addysgu, ymchwil, menter ac ymgysylltu allanol, gan hyrwyddo rhagoriaeth mewn hyfforddi pêl-droed ac addysg perfformiad.
Byddwch Chi’n
- Arwain twf a datblygiad ein rhaglenni gradd newydd.
- Adeiladu ac arwain portffolio ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn perfformiad pêl-droed, hyfforddi, dysgu hyfforddwyr, seicoleg chwaraeon gymhwysol, a datblygiad proffesiynol.
- Sicrhau cyllid allanol sylweddol a datblygu partneriaethau ymchwil effeithiol.
- Cryfhau enw da Met Caerdydd fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer addysg, ymchwil ac arloesedd pêl-droed.
- Datblygu cydweithrediadau ystyrlon gyda chlybiau proffesiynol, cyrff llywodraethu a phartneriaid rhyngwladol.
- Mentora cydweithwyr a helpu i feithrin diwylliant academaidd perfformiad uchel.
Pam Ymuno â Met Caerdydd? Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth mewn addysg chwaraeon, ymchwil ac ymarfer cymhwysol. Mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i lunio dyfodol addysg perfformiad pêl-droed, a dylanwadu ar ymarfer ar draws y gem proffesiynol.
Ymunwch â ni a helpwch i greu canolfan flaenllaw ar gyfer perfformiad pêl-droed, arloesedd hyfforddi a rhagoriaeth ymchwil.
Ceisiadau Rhaid i ymgeiswyr am swydd Athro fodloni, a pharhau i fodloni, meini prawf Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar gyfer penodiadau athrawol. Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn, gwnewch gais drwy'r porth trwy gyflwyno'ch CV a mynegiant ysgrifenedig o ddiddordeb erbyn dydd Gwener 10 Gorffennaf 2026 yn amlinellu sut mae eich profiad, cymwysterau a sgiliau blaenorol yn bodloni gofynion craidd y disgrifiad swydd a manyleb y person. Bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad panel ffurfiol.
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â Dr Huw Wiltshire (Deon (Dros Dro): Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd).
Dewch yn rhan o brifysgol sy'n ailddiffinio perfformiad, ymchwil ac addysg pêl-droed ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Dyddiad Cau: 09 Jul 2026
Ysgol/Uned: Academaidd
Cyflog: Professorial salary range
Parhaol
Interested in this role?
Sign up for OffScript to browse industry jobs, create tailored, ATS-optimised CVs, use our AI career coach and prepare for interviews with our career tools.
